Mae’r eiddo wedi’i leoli’n amlwg ar gyffordd Heol Casnewydd (A4161) a Heol y Pedair Llwyfen – dim ond 0.6 milltir i’r dwyrain o Ganol Dinas Caerdydd.
Mae’r eiddo’n cynnwys hen adeilad Llyfrgell a adeiladwyd yn 1901 – dau lawr o uchder gyda blaen addurnedig amlwg – wedi’i orffen gyda charreg Caerfaddon o dan do teils ar oleddf. Mae yna wahanol estyniadau brics un llawr i’r ochr a’r cefn. Mae’r eiddo’n rhestredig Gradd II oherwydd ei werth allanol a grŵp.
Mae’r eiddo’n elwa o fod â chaniatâd cynllunio ar gyfer ei ddefnydd blaenorol felly bydd unrhyw ddefnydd amgen yn destun cais cynllunio a chaniatâd newydd ynghyd ag unrhyw ymgynghoriadau statudol eraill efallai y bydd angen eu cynnal.
Rhydd-ddaliad.
Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i’w prynu yn gyffredinol, yn amodol ar gynllunio ac ymgynghori mewnol gan y Cyngor.
Ar gyfarwyddyd Cyngor Caerdydd, ceisir datganiadau o ddiddordeb drwy Broses Dendro Anffurfiol i ddod i law heb fod yn hwyrach na diwedd y dydd 5pm ddydd Iau 30 Tachwedd 2023.
Prif Neuadd | 2,439 troedfedd sgwâr | 226.59 metr sgwâr |
Neuadd Ochr | 1,430 troedfedd sgwâr | 132.85 metr sgwâr |
Ategol | 1,008 troedfedd sgwâr | 93.64 metr sgwâr |
Cyfanswm | 4,877 troedfedd sgwâr | 453.08 metr sgwâr |
All rights reserved. Copyright EJ Hales 2022.